Ewch i’r dudalen Hafan a chlicio ar y ddolen sy’n dweud “Cliciwch yma i lenwi’r arolwg”. Yn syml, nodwch un o'r setiau o gyfeirnodau a codau mynediad o'r llythyr a anfonwyd atoch. Teipiwch y rhain yn y blwch o dan y teitl “Mewngofnodwch i ddechrau”.
Gall hyd at dri o bobl 16 oed neu’n hŷn yn eich cartref gymryd rhan. Nid oes angen i chi fod yn drethdalwyr i lenwi’r arolwg hwn. Os oes mwy nag un person ar yr aelwyd yn llenwi’r arolwg, gwnewch yn siŵr bod pob person yn defnyddio manylion mewngofnodi gwahanol.
Gallwch. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan oedolion o wahanol grwpiau oedran a chefndiroedd, ni waeth a ydynt yn talu trethi ai peidio.
Gallwch, gallwch lenwi’r arolwg ar eich ffôn clyfar os oes ganddo fynediad at y Rhyngrwyd. Mae wedi cael ei ddylunio i’w lenwi ar ba ddyfais bynnag sydd orau gennych – gallai hyn fod yn ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur desg.
Gan nad yw’n bosibl gofyn i bawb gymryd rhan yn yr arolwg, gwnaethom ddewis sampl o gyfeiriadau i gynrychioli’r wlad gyfan. Dewiswyd eich cyfeiriad ar hap o restr o’r holl gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig sydd gan y Post Brenhinol.
Bydd hyd yr arolwg yn amrywio yn dibynnu ar ba atebion rydych yn eu rhoi, ond tua 15 munud yw’r hyd ar gyfartaledd.
Oes. Ar ôl llenwi’r arolwg ar-lein, byddwch yn cael taleb siopa gwerth £5. Ar ôl llenwi’r arolwg, cewch eich cyfeirio at wefan Merit lle y gallwch ddefnyddio manylion mewngofnodi’r arolwg i fewngofnodi a dewis o blith ystod o wahanol dalebau siopa gwerth £5. Os ydych wedi llenwi’r arolwg drwy’r post, byddwn yn anfon eich taleb £5 (a dderbynnir yn y rhan fwyaf o siopau’r stryd fawr) atoch drwy’r post unwaith y daw eich holiadur wedi’i lenwi i law.
Hoffem i chi ateb cymaint o gwestiynau ag y gallwch. Fodd bynnag, os oes unrhyw gwestiwn nad ydych yn gwybod yr ateb iddo, neu nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei ateb, gallwch symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf heb roi ateb. Ar ôl i chi glicio ar y saeth ‘nesaf’, bydd rhagor o ddewisiadau’n ymddangos ar y sgrin ar waelod y cwestiwn. Bydd yn rhaid i chi ddewis un o’r rhain i symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, gallwch gysylltu â Verian, drwy ffonio (0800 051 0885) neu e-bostio (hmrcsurvey@veriangroup.com), rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Nac oes. Gallwch ei lenwi mewn camau os yw’n well gennych. Bydd yr arolwg yn cael ei gadw’n awtomatig, felly caewch ffenestr eich porwr i adael. I ddod yn ôl ato, ewch i www.hmrcsurvey.co.uk a nodi’ch cyfeirnod a’ch tocyn, a byddwch yn dychwelyd i’r man lle y gwnaethoch stopio.
Er mwyn diogelu cyfrinachedd eich atebion, bydd yr arolwg yn cau os bydd yn segur am gyfnod. Bydd eich atebion wedi cael eu cadw, felly gallwch fewngofnodi eto drwy fynd i www.hmrcsurvey.co.uk a nodi’ch cyfeirnod a’ch tocyn eto – yna byddwch yn dychwelyd i’r man ll’r oeddech o’r blaen.
Oni bai bod angen help arnoch, byddem yn argymell eich bod yn llenwi’r arolwg ar eich pen eich hun, i’n helpu ni i gasglu safbwyntiau unigol pawb. Fodd bynnag, os oes angen rhywfaint o help arnoch i lenwi’r arolwg, mae hyn yn iawn. Ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 051 0885 os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Er nad oes angen llenwi’r arolwg i gyd ar yr un pryd, ar ôl i chi gyrraedd y diwedd, bydd yr arolwg wedi’i gloi ac ni fydd yn bosibl mynd yn ôl ato a newid yr atebion. Os ydych yn gweld y neges hon ac nad ydych yn meddwl eich bod wedi llenwi’r arolwg, gwnewch yn siŵr nad oes aelod arall o’ch cartref wedi defnyddio’r manylion rydych yn ceisio eu defnyddio. Cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0800 051 0885 neu drwy anfon e-bost at hmrcsurvey@veriangroup.com a byddwn yn ceisio eich helpu.
Diolch am eich ymateb! Efallai eich bod wedi llenwi’r arolwg ar ôl i ni wirio ein cofnodion ac anfon y llythyr atgoffa. Os felly, derbyniwch ein hymddiheuriadau – os ydych chi wedi llenwi’r arolwg, byddwn wedi cael eich atebion yn ddiogel.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif, ac rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel rhag cael ei cholli, ei dwyn neu ei chamddefnyddio. Rydym yn defnyddio gwefan ddiogel (https) er mwyn sicrhau bod eich ateb yn cael ei ddiogelu. Dyma’r un math o wefan ag y byddech yn ei gweld, fel arfer, wrth siopa ar-lein neu wrth ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein.
Fel rhan o’n hymrwymiad i ddiogelu’ch gwybodaeth, mae Verian yn cynnal archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd o’i ddiogelwch gwybodaeth, ac mae wedi’i achredu gan y Safon Ryngwladol ar gyfer Diogelwch Gwybodaeth, ISO 27001.
Mae Verian wedi’i gofrestru gyda’r Gymdeithas Ymchwil Farchnata (MRS) (www.mrs.org.uk), sef prif gymdeithas ymchwil y byd ac mae’n rhagnodi safonau ymchwil moesegol y byddwn yn eu dilyn. Os ydych yn poeni am ddiogelwch neu ddilysrwydd yr arolwg hwn neu unrhyw arolwg arall, ffoniwch rif Rhadffôn Cenedlaethol MRS ar 0800 975 9596, neu edrychwch ar ei gwefan yma, i wirio bodolaeth Verian yn ogystal â bod yr ymchwil rydym yn ei gwneud yn ddilys
Mae’r arolwg hwn hefyd yn cael ei gydnabod ar wefan CThEF fel un dilys. I wirio hyn neu i ddarllen mwy am sut mae adnabod gweithgarwch gwe-rwydo, cliciwch yma.
Ydy. Caiff eich manylion cyswllt eu cadw’n ddiogel ar bob adeg a bydd eich holl atebion yn cael eu trin yn gyfrinachol. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Cedwir eich enw a’ch cyfeiriad ar wahân i’ch atebion, ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i CThEF nac unrhyw sefydliad arall. Ni fyddant ychwaith yn cael eu cysylltu â’ch cofnodion treth mewn unrhyw ffordd. I adolygu Polisi Preifatrwydd Verian, cliciwch yma.
Mae hynny’n iawn – mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol a gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.
Mae’r arolwg ar-lein hwn yn canfod system weithredu’ch dyfais, cydraniad eich sgrin a’r porwr rydych yn ei ddefnyddio er mwyn addasu’r holiadur i gyd-fynd orau â’ch system. Gwneir hyn drwy ddefnyddio cwci sy’n cael ei greu ar eich cyfrifiadur. Caiff yr wybodaeth hon ei dychwelyd atom a’i storio at ddibenion ystadegol yn unig. Nid ydym yn casglu nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol. Mae’n bosib i chi ddileu ‘cwcis’ neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy addasu gosodiadau’r porwr ar eich cyfrifiadur.