Cymhelliannau

Ar y dudalen hon:

Fel ffordd o ddiolch i chi am gymryd rhan, byddwch yn cael taleb anrheg gwerth £5. Gellir ei defnyddio mewn amrywiaeth o siopau.


Sut i hawlio’ch taleb os gwnaethoch gwblhau’r arolwg ar-lein

Ar ôl i chi gwblhau'r arolwg ar-lein, byddwch yn cael eich cyfeirio at wefan y daleb, a bydd cyfarwyddiadau ynghylch sut i hawlio'ch taleb anrheg gwerth £5. Caiff y talebau anrheg eu darparu gan Merit Incentives.

Dilynwch y camau syml canlynol:

  1. Cod y daleb: Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch yn cael cyfeirnod cod unigryw ar gyfer y daleb, a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i hawlio'ch taleb. Nodwch god eich taleb a chyfeiriad gwefan Merit er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
  2. Dewis eich taleb anrheg: Unwaith y byddwch wedi cael cod eich taleb, ewch i wefan 'Merit Incentives' a nodi cod eich taleb er mwyn cael mynediad at y wefan (bydd y cod wedi ei ragboblogi os byddwch yn defnyddio'r cysylltiad unigryw y byddwch wedi ei gael ar ddiwedd yr arolwg ac yn yr e-bost). Yna, cewch ddewis pa daleb anrheg yr hoffech ei chael o’r rhestr isod.
  3. Rhoi eich cyfeiriad e-bost: Bydd gofyn i chi wedyn roi eich cyfeiriad e-bost fel y gall y daleb anrheg gael ei hanfon atoch drwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi nodi eich cyfeiriad e-bost, cliciwch ar “redeem now” a chadarnhau ar y sgrin nesaf.
  4. Cael eich taleb anrheg: Ar ôl i chi gyfnewid y daleb, bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost. Os na fydd yn ymddangos yn eich mewnflwch o fewn 72 awr, edrychwch yn eich ffolder sbam/sothach. Pan fyddwch wedi cyfnewid eich taleb, bydd eich balans yn ymddangos fel £0. Gwe-lywiwch at y dudalen “My Wallet” er mwyn gweld y daleb anrheg yr ydych wedi ei dewis.

Os byddwch yn cael trafferthion wrth gyfnewid eich taleb anrheg ar-lein, defnyddiwch borwr gwahanol.

Os bydd y problemau’n parhau, anfonwch e-bost atom yn hmrcsurvey@veriangroup.com, neu ffoniwch 0800 051 0885.


Rhestr o dalebau anrheg i'r sawl sy'n cymryd rhan ar-lein

Bydd y sawl sy’n cymryd rhan ar-lein yn gallu dewis taleb anrheg, neu ddewis gwneud rhodd i un o’r canlynol:

  • Amazon.co.uk
  • Argos
  • Asda
  • Iceland
  • Ikea
  • Love2 Shop Rewards
  • M&S
  • Marks And Spencer
  • Morrisons
  • Primark
  • Sainsbury's
  • Tesco
  • Waitrose & Partners
  • Waterstones
  • Save the Children International
  • RSPCA
  • Alzheimer's Society
  • MIND (The National Association for Mental Health)
  • Special Olympics Great Britain
  • The United Kingdom Committee for UNICEF

Sut i hawlio’ch taleb anrheg os byddwch yn cwblhau’r arolwg ar bapur

Os byddwch yn cwblhau’r arolwg ar bapur…

Byddwch yn cael taleb anrheg ‘Love2shop’ drwy’r post cyn pen 21 diwrnod gwaith ar ôl i’ch arolwg ddod i law. Gall y daleb anrheg hon gael ei defnyddio mewn amryw o fwytai, a chyda manwerthwyr amrywiol. Am ragor o wybodaeth am y lleoliadau lle gallwch ddefnyddio’ch taleb anrheg, ewch i https://www.highstreetvouchers.com/gift/where-to-spend-love2shop-vouchers