Cynnwys yr Arolwg

Diolch am eich diddordeb yn Arolwg Cwsmeriaid CThEF. Rydym yn ddiolchgar am eich parodrwydd i gymryd rhan. Bydd hyn yn gymorth i CThEF wrth gasglu gwybodaeth bwysig i ddatblygu ei wasanaethau.

Gofynnir cwestiynau i chi ynghylch y pynciau canlynol:

  • Eich gwybodaeth ddemograffig
  • Delio â'ch treth a budd-daliadau
  • Y cymorth y gallech ei gael wrth ddelio â'ch treth neu fudd-daliadau
  • Sut rydych chi'n rhyngweithio â CThEF
  • Eich profiad o ryngweithio â CThEF
  • Eich barn bersonol am CThEF
  • I ble rydych chi'n troi am arweiniad a gwybodaeth am dreth neu fudd-daliadau

Bydd yr adran ddemograffeg yn cwmpasu cwestiynau ynglŷn â chi, fel eich oedran, ethnigrwydd, addysg, a'ch cofnod gwaith, ynghyd â phynciau cysylltiedig eraill fel deiliadaeth tai a'ch defnydd o'r rhyngrwyd. Nod y cwestiynau hyn yw sicrhau bod barn pawb yn cael ei chasglu.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Nid oes angen i chi ateb unrhyw gwestiynau na hoffech eu hateb.

Mae rhagor o wybodaeth am Arolwg Cwsmeriaid CThEF ar gael yma.