Yn ddiweddar, cawsoch lythyr drwy'r post yn eich gwahodd chi, a hyd at ddau oedolyn arall yn eich aelwyd sy'n 16 oed neu'n hŷn, i gymryd rhan mewn arolwg ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF). Sylwer – nid oes rhaid i chi fod yn drethdalwr er mwyn cymryd rhan yn yr ymchwil hon.
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal ar ran CThEF gan Verian, asiantaeth ymchwil annibynnol.
Bydd yr arolwg hwn yn holi am eich profiad o ddelio â CThEF a bydd y canfyddiadau’n helpu CThEF i wella ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu, ac i ddeall anghenion ei gwsmeriaid yn well.
Mae rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar gael yma.
Mae rhagor o wybodaeth am CThEF a Verian isod:
Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu trethi, gan gynnwys Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn ogystal ag am dalu credydau treth a Budd-daliadau Plant. Mae rhagor o wybodaeth am CThEF ar gael ar ei wefan yma. Mae CThEF wedi penodi Verian i gynnal yr arolwg blynyddol hwn i ddeall ac olrhain newidiadau ym marn y cyhoedd tuag at CThEF a’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu dros amser.
Mae Verian yn asiantaeth ymchwil sy’n cynnal ymchwil ar gyfer cleientiaid mewn llywodraeth, y sector cyhoeddus, elusennau a busnesau. Gallwch ddod o hyd i Verian wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yma a gallwch ddysgu rhagor am Verian yma.